Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio y cynnig i droi tŷ yn 47 Heol Lewis, Castell-nedd, yn ddau fflat. Cytunodd i gynnal ymweliad safle ar y cynnig i droi capel yng Nghrynant yn gartref gofal, a thynnodd y cais hwnnw'n ôl o'r drafodaeth nes bydd yr ymweliad wedi digwydd. Nododd hefyd ddau adroddiad ar apeliadau cynllunio a phenderfyniadau a wnaed gan swyddogion.