Rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Penderfyniad: Cytunodd y Cabinet yn unfrydol i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn 2026/27. Mae'n rhoi rhyddhad rhag ardrethi busnes (ardrethi annomestig) ar gyfer 2024/25, 2025/26 a 2026/27. Rhoddir rhyddhad yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd ceisiadau nad yw'r canllawiau yn eu cwmpasu'n benodol yn cael eu penderfynu gan Aelod y Cabinet dros Adnoddau.