Dyfarnu contract partner adfywio a buddsoddi gyda Torfaen
Penderfyniad: Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad. Dirprwyodd awdurdod i'r Prif Weithredwr, nes bydd y Cyd-Gyfarwyddwr Strategol Economi a Lle yn ei swydd. Bydd y Prif Weithredwr yn gweithredu mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet Economi a Lle Blaenau Gwent ac Aelod Gweithredol Economi, Sgiliau ac Adfywio Torfaen. Gall y Prif Weithredwr benodi Willmott Dixon trwy Ddyfarniad Uniongyrchol o dan Lot 1b Fframwaith Arweiniol Datblygwyr Pagabo fel Partner Datblygu a Buddsoddi Strategol ar gyfer y ddau gyngor, yn amodol ar sicrwydd caffael a chyfreithiol terfynol. Gall hefyd negodi a chytuno ar delerau'r berthynas fasnachol, am gost o hyd at £300,000 (ynghyd â TAW) dros 12 mis.