99,485 eitem
Penderfyniad: Nododd y Cabinet y Siarter, a gymeradwywyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar 8 Mai 2026. Nododd y gwaith croesgyfeirio, cydnabu bod y Cyngor eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol, a nododd y cyfle i rannu dysg gyda phartneriaid eraill.
Penderfyniad: Derbyniodd y Cabinet bedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, yr Athro Sally Holland.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Cabinet y cynllun gweithredu, sy'n nodi gweithgareddau ar draws adrannau'r Cyngor sy'n cefnogi Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad: Awdurdododd y Cabinet Pennaeth Cynorthwyol Tai ac Eiddo i brydlesu hen safle'r ysgol yn uniongyrchol i Menter Fachwen am rent enwol, o dan Gydsyniad Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003. Mae'r brydles yn dibynnu ar i Menter Fachwen sicrhau cyllid a chaniatâd cynllunio ar gyfer canolfan gymunedol aml-bwrpas, a bydd y telerau terfynol yn cael eu cytuno.
Penderfyniad: Penderfynodd y Cabinet fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027. Rhoddodd awdurdod dirprwyedig i'r Aelod Cabinet dros Addysg, gyda Phennaeth Addysg, i adolygu'r polisi a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol. Rhaid dychwelyd newidiadau sydd angen ymgynghoriad at y Cabinet.
Penderfyniad: Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad gwrthwynebiadau a chadarnhaodd yn derfynol y cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026. Cynigir lleoedd i ddisgyblion yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr 2027.
Penderfyniad: Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad gwrthwynebiadau a chadarnhaodd yn derfynol y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026. Cynigir lleoedd i ddisgyblion yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027.
Penderfyniad: Cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cabinet y Compact fel fframwaith strategol ar gyfer y berthynas rhwng y Cyngor a sefydliadau'r Trydydd Sector yng Ngwynedd.