Cyllideb a'r dreth gyngor
Beth mae cynghorau'n ei wneud
Mae pob cyngor yn pennu cyllideb bob blwyddyn: faint i'w wario ar bob gwasanaeth a faint o dreth gyngor i'w chodi. Mae'r dreth gyngor yn talu am tua thraean; daw'r rhan fwyaf o'r gweddill o grant gan Lywodraeth Cymru ac ardrethi busnes.
Pwy sy'n penderfynu
Mae'r Cabinet yn cynnig y gyllideb, fel arfer yn y gaeaf, ac mae'r Cyngor llawn yn ei chytuno ac yn pennu'r dreth gyngor erbyn dechrau mis Mawrth. Mae pwyllgorau craffu'n archwilio'r cynlluniau yn gyntaf.
Dweud eich dweud
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n cynnal ymgynghoriad ar y gyllideb yn yr hydref neu ddechrau'r gaeaf. Mae eich cynghorwyr yn pleidleisio ar y gyllideb derfynol, felly dywedwch wrthyn nhw beth sy'n bwysig i chi.
Mewn rhifau
- Treth gyngor a gasglwyd: 95% ar draws Cymru (2025-26).
- Ardrethi busnes a gasglwyd: 96% ar draws Cymru (2025-26).