Cabinet
Ystyriodd y Cabinet bum adroddiad ar 18 Hydref 2023. Cytunodd y dylid adeiladu pont newydd ym Masaleg ochr yn ochr â'r bont bresennol, ac fe gytunodd ar asesiad WelTAG i gefnogi cais am arian. Cytunodd ar hunanasesiad y Cynllun Corfforaethol i'w gyflwyno i'r Cyngor llawn, a chymeradwyodd adroddiad blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i'w gyhoeddi. Ystyriodd hefyd gynllun ac adroddiad blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, a diweddariad ar bwysau'r argyfwng costau byw.