Polisi goleuadau ac addurniadau tymhorol a Nadoligaidd 2026-2031
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Cabinet Bolisi Goleuadau ac Addurniadau Tymhorol a Nadoligaidd 2026-2031 a nododd adborth y Pwyllgor Craffu Trosolwg Cymunedau Ffyniannus. Gofynnodd i swyddogion ysgrifennu at bob Cyngor Tref a Chymuned i ofyn a ydynt yn gosod goleuadau neu addurniadau ar briffyrdd y Cyngor, sut maent yn sicrhau eu diogelwch, ac a oes ganddynt yswiriant atebolrwydd ac am faint. Gofynnodd hefyd i swyddogion amcangyfrif cost trwydded fel y gellir ei chynnwys yn y praesept (y rhan o'r dreth gyngor sy'n ariannu cyngor tref neu gymuned).