Does dim crynodeb o'r cyfarfod hwn eto. Caiff crynodebau eu hysgrifennu pan fydd y cyngor yn cyhoeddi'r cofnodion, sef ei gofnod swyddogol o'r hyn a benderfynodd cyfarfod. Maen nhw fel arfer yn ymddangos ychydig wythnosau ar ôl y cyfarfod.
Dim
Dim
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
Derbyniodd y Panel y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet a oedd yn ymwneud â'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr.
Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.
Diolchodd y Panel i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu a'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ddod i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n ymwneud â materion addysg. Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol: · Cyllideb ysgolion ar gyfer 2024-25 · Cyllideb ganolog a staffio canolog · Anghenion Dysgu Ychwanegol · Adolygiad o wasanaethau · Ffïoedd ar gyfer ysgolion · Arbedion Eraill Nodwyd y pwyntiau canlynol gan y Panel a byddant yn cael eu hanfon ymlaen at Banel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Cyllid ac Adfywio i'w trafod a byddant yn cael eu cynnwys yn eu llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth. · Rydym yn cydnabod ei bod yn gyllideb heriol ond cawsom ein calonogi bod Aelod y Cabinet a’r adran addysg wedi ystyried yn ofalus yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn gwneud y gorau o’r arian sydd ar gael. · Rydym yn bryderus iawn am y gostyngiad parhaus yn lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion. Er ein bod yn cydnabod yr angen i’r arian gael ei wario’n ddoeth, mae’n bwysig bod gan ysgolion lefel dda o gronfeydd wrth gefn i'w defnyddio fel 'clustog' os bydd angen gwneud hynny. · Nodwyd gennym o gyfraniad Fforwm Cyllideb Ysgolion Abertawe, sef un o’r ymgyngoreion statudol, fod y setliad y mae Abertawe’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn 'gymharol wael ar safle 17/18 o'r 22 awdurdod lleol Cymru.' Fel Panel, byddem yn cefnogi rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithio i wella sefyllfa Abertawe. · Croesawyd y newyddion am y cynllun peilot bws mini ADY ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am hyn wrth iddo ddatblygu. · Croesawyd y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn debygol o dalu am y cynnydd o £5 miliwn (a dderbyniwyd fel rhan o symiau canlyniadol Barnett) yng nghostau pensiwn athrawon yn Abertawe. · Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod y grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwastatáu a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ein gwariant cyffredinol ar addysg. · Teimlwn ei bod yn dda bod y Cyngor wedi derbyn taliad untro eleni, ond fe wnaethom fynegi pryder ynghylch yr hyn a all ddigwydd yn y dyfodol. · Nodwyd y gorwariant ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol eto eleni. Byddwn yn cadw llygad ar sut mae hyn yn datblygu dros y flwyddyn i ddod. · Rydym yn croesawu gwella darpariaeth ‘o fewn y sir’, a thrwy hynny leihau’r potensial ar gyfer cymaint o leoliadau y tu allan i’r sir. Fodd bynnag, sylweddolom fod yna arbedion mawr wedi'u rhagamcanu ar gyfer ADY a theimlwn ei bod yn bwysig nad yw hyn yn effeithio ar y canlyniadau ADY cyffredinol yn Abertawe yn y dyfodol. · Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r ddwy ysgol a’r tîm addysg canolog am y gwaith y maent yn ei wneud yn y cyfnod heriol hwn.
Derbyniodd y Panel y rhaglen waith gan nodi bod cyfarfod ychwanegol ar 19 Chwefror wedi’i drefnu i edrych ar drefniadaeth ysgolion mewn perthynas â chyfuno ysgolion arbennig yn Abertawe.
Nodwyd yr wybodaeth gan y panel. Gofynnodd y Panel fod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys ychydig mwy o gyd-destun, gan gynnwys rhai o'r pethau cadarnhaol am yr ysgolion.
Rhaid i gynghorwyr ddweud pan fydd ganddyn nhw gysylltiad personol â rhywbeth sy'n cael ei drafod, fel swydd, eiddo neu aelod o'r teulu. Mae buddiant sy'n rhagfarnu yn ddigon cryf i'r cynghorydd adael yr ystafell fel arfer a pheidio â chymryd rhan.
Caiff datganiadau eu darllen o'r cofnodion unwaith y byddan nhw wedi'u cyhoeddi.
Yn rhestru cynghorwyr presennol y cyngor yn unig. Nid yw aelodau cyfetholedig, swyddogion a chyn-gynghorwyr yn cael eu dangos.