Gweithgor Craffu - Cymorth Busnes
Cyfarfu'r Gweithgor Craffu ar Gymorth i Fusnesau ar 8 Hydref 2026 i edrych ar waith Busnes Abertawe, gwasanaeth cymorth busnes y cyngor. Clywodd gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hopkins a swyddogion. Yna cytunodd ar chwe chasgliad ac argymhelliad i Aelodau'r Cabinet, yn ymdrin â llif arian grantiau, ariannu ar sail y cyntaf i'r felin a dilyn ymgeiswyr aflwyddiannus.