Does dim crynodeb o'r cyfarfod hwn eto. Caiff crynodebau eu hysgrifennu pan fydd y cyngor yn cyhoeddi'r cofnodion, sef ei gofnod swyddogol o'r hyn a benderfynodd cyfarfod. Maen nhw fel arfer yn ymddangos ychydig wythnosau ar ôl y cyfarfod.
Response by the Cabinet Member: Mae'r cyhoeddiad ym mis Rhagfyr bod cyfrifiad 2021 yn dangos bod nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng dros y 10 mlynedd diwethaf yn un siomedig iawn. Ym Mhowys, rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog ein disgyblion i gael addysg gref drwy gyfrwng y Gymraeg. Ym mis Gorffennaf 2022, cyflwynwyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Powys, a’i gytuno â Llywodraeth Cymru. Mae'r CSGA yn amlinellu saith ardal y bydd yr awdurdod lleol yn blaenoriaethu i wella addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys. Ym mis Tachwedd 2022, bu Arweinydd y Cyngor ac uwch swyddogion yn cwrdd â'r Gweinidog Addysg i drafod ysgogi’r CSGA. Cydnabu'r Gweinidog fod Powys yn gwneud cynnydd, gan amlygu llwyddiant rhaglen Trochi a thrawsnewid Bro Hyddgen i ysgol cyfrwng Cymraeg, a bod y ddwy fenter wedi digwydd dros dymor cyntaf y CSGA. Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd fod yna lawer o feysydd lle mae angen a lle y gall Powys wella, ac mae gweithredu'r CSGA yn hanfodol i'r datblygiad hwn. Ers mis Tachwedd, mae swyddogion wedi bod wrthi’n cynhyrchu cynlluniau manylach i roi pob un o saith maes y CSGA ar waith. Yng nghyfarfod y Fforwm Cymraeg fis Rhagfyr, cydnabuwyd bod rhagor o waith i'w wneud i gryfhau'r cysylltiadau rhwng sefydliadau allanol, megis Mudiad Meithrin a'r awdurdod lleol, er mwyn hyrwyddo a strwythuro continwwm addysg Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar i mewn i addysg gynradd. Mae swyddogion wedi gweithredu ar yr adborth o'r fforwm i gryfhau eu cynlluniau i sicrhau bod dull ar y cyd gan bartneriaid mewnol ac allanol i sy’n cefnogi cyfrwng Cymraeg, yn enwedig ar adegau trosi allweddol. Mae'r Gwasanaeth Ysgolion wedi penodi Swyddog Arweiniol i’r Gymraeg (Arweinydd y Gymraeg), a fydd yn cychwyn yn ei swydd ddechrau Ionawr 2023. Mae hon yn swydd hanfodol wrth sicrhau bod cysondeb ac eglurder yn ein dull o weithredu, yn ymgyrch i ddod â'r holl bartneriaid at ei gilydd ac yn ffocws clir ar gyflawni'r CSGA. Mae'r ymarfer ymgysylltu diweddar yn Llanfihangel Rhydieithon i benderfynu hyfywedd darparu addysg cyfrwng Cymraeg wedi tynnu sylw at yr angen i hyrwyddo manteision addysg gwbl ddwyieithog i ddysgwyr. Cydnabyddir bod datblygu addysg Gymraeg o fewn Powys yn heriol. Fodd bynnag, gyda chynllun clir wedi'i amlinellu yn y CSGA, gyda swyddog arweiniol newydd a pharodrwydd i weithio ar y cyd â phartneriaid, gall Powys ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a chyrraedd ein targedau a nodwyd yn y CSGA. The announcement in December that the 2021 census showed the number of people who speak Welsh in Wales has decreased over the last 10 years is very disappointing. In Powys, we value and encourage our pupils to have a strong education through the medium of Welsh. In July 2022, Powys’s Welsh in Education Strategic Plan (WESP) was submitted to and agreed with the Welsh Government. The WESP outlines seven areas which the local authority will prioritise to improve Welsh medium education in Powys. In November 2022, the Council Leader and senior officers met with the Minister for Education to discuss the initiation of the WESP. The Minister acknowledged that Powys was making progress, highlighting the success of the Trochi programme and the transformation of Bro Hyddgen into a Welsh medium school, bith of which had taken place over the first term of the initiation of the WESP. However, it was also acknowledged that there are still many areas where Powys need and can improve on with the implementation of the WESP being crucial to this development. Since November, officers have been working at producing more detailed plans for the implementation of all seven aspects of the WESP. At the Welsh Forum meeting in December, it was acknowledged that there is further work to do to strengthen the links between external organisations, such as Mudiad Meithrin and the local authority, to promote and structure the continuum of Welsh medium education from early years into primary education. Officers have acted on the feedback from the forum to strengthen their plans to ensure there is a collective approach from internal and external partners to support Welsh medium, especially at key transitional points. The Schools Service have appointed a Lead Officer for Welsh (Arweinydd y Gymraeg), who will take up their post at the start of January 2023. This is a crucial post in ensuring there is a consistency and clarity in our approach, a drive to bring all partners together and a clear focus on the delivery of the WESP. The recent engagement exercise at Llanfihangel Rhydeithon to determine the viability of delivering Welsh Medium education has highlighted a need to promote the benefits of a fully bilingual education for learners. It is acknowledged that developing Welsh medium education within Powys is challenging. However, with a clear plan outlined in the WESP, with a new lead officer and a willingness to work in collaboration with partners, Powys can develop Welsh medium education and meet our targets set out in the WESP.
Rhaid i gynghorwyr ddweud pan fydd ganddyn nhw gysylltiad personol â rhywbeth sy'n cael ei drafod, fel swydd, eiddo neu aelod o'r teulu. Mae buddiant sy'n rhagfarnu yn ddigon cryf i'r cynghorydd adael yr ystafell fel arfer a pheidio â chymryd rhan.
Caiff datganiadau eu darllen o'r cofnodion unwaith y byddan nhw wedi'u cyhoeddi.
Dyw'r cyngor ddim wedi cofnodi presenoldeb ar gyfer y cyfarfod hwn.
Yn rhestru cynghorwyr presennol y cyngor yn unig. Nid yw aelodau cyfetholedig, swyddogion a chyn-gynghorwyr yn cael eu dangos.