Joint Community & Adult Services and Environmental Scrutiny Committee
Bu'r Pwyllgor Craffu ar y Cyd ar Wasanaethau Cymunedol ac Oedolion a'r Amgylchedd yn ystyried adroddiad y Cabinet ar gynllun meistr ar gyfer tir yn Pengam Green, a safle dros dro i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw yn Rover Way ar hyn o bryd. Bydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad ar 10 Gorffennaf. Ni wnaeth y Pwyllgor benderfyniad ar y cynnig, ond cytunodd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet gyda sylwadau'r Pwyllgor.