There is no summary of this meeting yet. Summaries are written once the council publishes the minutes, which are its official record of what a meeting decided. They usually appear a few weeks after the meeting.
Dim
Dim
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
Derbyniodd y Panel y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet a oedd yn ymwneud â'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr.
Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.
Diolchodd y Panel i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu a'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ddod i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n ymwneud â materion addysg. Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol: · Cyllideb ysgolion ar gyfer 2024-25 · Cyllideb ganolog a staffio canolog · Anghenion Dysgu Ychwanegol · Adolygiad o wasanaethau · Ffïoedd ar gyfer ysgolion · Arbedion Eraill Nodwyd y pwyntiau canlynol gan y Panel a byddant yn cael eu hanfon ymlaen at Banel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Cyllid ac Adfywio i'w trafod a byddant yn cael eu cynnwys yn eu llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth. · Rydym yn cydnabod ei bod yn gyllideb heriol ond cawsom ein calonogi bod Aelod y Cabinet a’r adran addysg wedi ystyried yn ofalus yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn gwneud y gorau o’r arian sydd ar gael. · Rydym yn bryderus iawn am y gostyngiad parhaus yn lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion. Er ein bod yn cydnabod yr angen i’r arian gael ei wario’n ddoeth, mae’n bwysig bod gan ysgolion lefel dda o gronfeydd wrth gefn i'w defnyddio fel 'clustog' os bydd angen gwneud hynny. · Nodwyd gennym o gyfraniad Fforwm Cyllideb Ysgolion Abertawe, sef un o’r ymgyngoreion statudol, fod y setliad y mae Abertawe’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn 'gymharol wael ar safle 17/18 o'r 22 awdurdod lleol Cymru.' Fel Panel, byddem yn cefnogi rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithio i wella sefyllfa Abertawe. · Croesawyd y newyddion am y cynllun peilot bws mini ADY ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am hyn wrth iddo ddatblygu. · Croesawyd y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn debygol o dalu am y cynnydd o £5 miliwn (a dderbyniwyd fel rhan o symiau canlyniadol Barnett) yng nghostau pensiwn athrawon yn Abertawe. · Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod y grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwastatáu a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ein gwariant cyffredinol ar addysg. · Teimlwn ei bod yn dda bod y Cyngor wedi derbyn taliad untro eleni, ond fe wnaethom fynegi pryder ynghylch yr hyn a all ddigwydd yn y dyfodol. · Nodwyd y gorwariant ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol eto eleni. Byddwn yn cadw llygad ar sut mae hyn yn datblygu dros y flwyddyn i ddod. · Rydym yn croesawu gwella darpariaeth ‘o fewn y sir’, a thrwy hynny leihau’r potensial ar gyfer cymaint o leoliadau y tu allan i’r sir. Fodd bynnag, sylweddolom fod yna arbedion mawr wedi'u rhagamcanu ar gyfer ADY a theimlwn ei bod yn bwysig nad yw hyn yn effeithio ar y canlyniadau ADY cyffredinol yn Abertawe yn y dyfodol. · Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r ddwy ysgol a’r tîm addysg canolog am y gwaith y maent yn ei wneud yn y cyfnod heriol hwn.
Derbyniodd y Panel y rhaglen waith gan nodi bod cyfarfod ychwanegol ar 19 Chwefror wedi’i drefnu i edrych ar drefniadaeth ysgolion mewn perthynas â chyfuno ysgolion arbennig yn Abertawe.
Nodwyd yr wybodaeth gan y panel. Gofynnodd y Panel fod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys ychydig mwy o gyd-destun, gan gynnwys rhai o'r pethau cadarnhaol am yr ysgolion.
Councillors must say when they have a personal link to something being discussed, such as a job, a property or a family member. A prejudicial interest is one strong enough that the councillor usually leaves the room and takes no part.
Declarations are read from the minutes once they are published.
Lists the council's current councillors only. Co-opted members, officers and former councillors aren't shown.